Croeso i'r Ganolfan

Saif Canolfan Gymdeithasol Porthmadog, sy'n fwy adnabyddus yn lleol fel Y Ganolfan, ar y Stryd Fawr wrth ochor yr harbwr deniadol. Y Ganolfan yw'r unig adnodd o'i faint yn yr ardal sy'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau celfyddydol a diwylliannol yn ogystal â bod yn gartref i gymdeithasau a mudiadau lleol. Yn ddiweddar lansiwyd sinema gymunedol Porthmadog yma. Ond mae'r Ganolfan yn fwy nag adeilad - mae hi'n ganolbwynt i'r gymuned a rydym yn falch o hyrwyddo'r iaith Gymraeg a threftadaeth Porthmadog.

Amdanom